P-06-1165 Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Russell Gwilym Morris, ar ôl casglu cyfanswm o 91 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Senedd i wahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd. Gweithle yw'r Senedd ac nid yw’r rhan fwyaf o weithleoedd yn caniatáu alcohol yn eu safleoedd. Mae llawer o sefydliadau yn y brifddinas hefyd lle gall Aelodau o'r Senedd fynd iddynt i ymlacio ar ôl diwrnod o waith, fel sy’n wir i weddill dinasyddion Cymru.
Mae pobl eisoes yn teimlo bod diwylliant o ‘y nhw a ni’ mewn gwleidyddiaeth, a byddai hyn o gymorth i newid ychydig ar y canfyddiad hwnnw.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru